
Mae ystafell Glaslyn yn ystafell foethus wedi'i beintio gyda 'Tunsgate Green' a 'Green Ground' Farrow & Ball gwyrdd. Mae'r ystafell yn llawn o henebion Cymreig o'r 17fed Ganrif ynghyd â peintiadau hen o Ogledd Cymru yn eich croesawu gyda golau chandelier 10 braich a llosgwr coed gyda lle tân llechi gweriddiol.
Defnyddir yr ysafell yma ar gyfer brecwast, prydau nos, tê prynhawn a chynnal cyfarfodydd/cynhadleddau.
Gweinir prydau ar hen grochenwaith Totem 1960au Portmeirion a ddylunwyd gan Susan Williams-Ellis neu hen lestri tê mae Mirain wedi'i etifeddu o'i theulu.
Hefyd yn yr ystafell Glaslyn mae cyfle i chi ymlacio, sgwrsio neu ddarllen yr amrywiol llyfrau sydd ar gael neu bori drwy ffolderi gwybodaeth Cymraeg a Saesneg a ddarperir.
Cyfeiriad: Hen Ficerdy / Old Vicarage, Penrhyndeudraeth LL48 6LG
Rhif Ffôn: 01766 770892
Ebost: post@taldraeth.com