Lleoliad

Lleolir Taldareth uwchben traeth bach a golygfeydd godidog o foryd y Ddwyryd a Moel Ysgyfarnogod, yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri. Mae’r lleoliad yn agos i ganol pentref Penrhyndeudraeth ar y ffordd A487, gyda digon o le parcio ar gyfer ceir, beiciau a chychod.

Eryri

Mae traeth y Ddwyryd yn ddelfrydol ar gyfer cerdded, nofio a torheuol gyda golygfa fendigedig. Mae’r glastraeth yn cael ei bori gan ddefaid o’r fferm deulol i gynhyrchu Cig Oen y Glastraeth.

Penrhyndeudraeth

Penrhyndeudraeth

Dim ond 2 filltir, lawr y traeth, mae’r pentref Eidalaidd Portmeirion, sy’n un o’r atyniadau twrisitaeth mwyaf poblogaidd Cymru. Gellir cerdded I Bortmeirion mewn 25 munud ar bafin diogel ar hyd y ffordd fawr.

Mae Taldraeth o fewn 30-40 munud mewn car at lwybrau’r Wyddfa ac Tren Bach yr Wyddfa yn Llanberis, mynydd uchaf Cymru a Lloegr 1,085m (3,560tr) ac un arall o atyniadau mwyaf poblogaidd Cymru gyda’r goloygfeydd gorau ym Mhyrdain.

Llwytho ffrwydron

Mae traethau Harlech a Morfa Bychan, gyda chyrsiau golf adnabyddus, gyda’r golygfa gwych o’r mynyddoedd Eryri ac Ardudwy i gyd gerllaw.

Mae’r tirwedd o fôr a mynyddoedd yn ddelfrydol i gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored fel marchogaeth, canwio, rhwyfo, hwylio, beicio, cerdded a dringo creigiau. Mae’n safle delfrydol i wylio’r adar ac yn gartref i nifer o rywogaethau prin fel y troellwr, hwyaden yr eithin, ystlumod, bran goes goch, hebog tramor (neu walch glas), cudyll coch, cudyll glas (sydd ar gynydd yma), y bwncath, tylluan frech, llygod dwr, bronfraith fawr, cnocell y coed, cnocell fraith, sigl di glwt melyn a llwyd. Mae Gweilch y Pysgod yn aderyn ysglyfaethus prin iawn ym Mhrydain, ceir safle Gwalch Glaslyn dim ond 3 milltir o Daldraeth.

Ceir safleoedd hanesyddol diddorol fel cestyll, cylchoedd meini, twmpathau claddu, glofeydd a chwareli.

Os ydych yn teimlo’n anturus gallwch ymweld a’r Byd Zip sef y llinin zip, trampolin yn y chwarel, rhaffau coed a’r coster.

Mae'r wlad oddi amgylch hefyd yn fyw o ddiwylliant, chwedloniaeth Cymreig a'r iaith Gymraeg.

Llwytho ffrwydron

Trafnidiaeth

Mae Penrhyndeudraeth yn bentref canolig i lawer o brif drefi a phentrefi y Gogledd ac sy’n rhwydd iawn i gael myneiad atynt. Mae yna wasanaeth bws rheolaidd o’r sgwâr gerlaw (o fewn 150m i Taldraeth), mae'r orsaf dren Cambrian yn agos iawn (o fewn 250m i Taldraeth) sy’n rhedeg ar hyd yr arfordir o Bwllheli i Fachynlleth. Mae gwasanaeth tacsi ar gael ar Stryd yr Eglwys gerllaw. Mae yna ddau rheilffordd trên stem gul gerllaw. Mae'r rheilffordd Ffestiniog yn rhedeg o Borthmadog i Blaenau Ffestiniog, gan aros ym Mhenrhyndeudraeth ar y ffordd. Mae'r rheilffordd yr Ucheldir yn rhedeg o Borthmadog i Gaernarfon. Mae'r ddau yn cynnig golygfeydd gwych.

Mae Llwybr Arfodir Cymru, yn gyfle i bobl grwydro ar hyd 870 milltir o lwybr di-dor yr holl ffordd ar hyd arfordir Cymru. Mae'r llwybr yn mynd heibio Taldraeth. Yng Ngwynedd, mae llwybr ar hyd 180 milltir o arfordir bendigedig i’w fwynhau. Hefyd mae Llwybr Cenedlaethol Beicio Cymru (Llwybr 8 Lôn Las Cymru) yn mynd heibio Taldraeth, sy'n lwybr sy'n cysylltu Caergybi a Chaerdydd.

Lleolir hefyd ar y Llwybr Eryri o Fachynlleth i Gonwy 15.5milltir / 24.7km.

Lleoliad

Cysylltwch â Ni

Cyfeiriad: Hen Ficerdy / Old Vicarage, Penrhyndeudraeth LL48 6LG

Rhif Ffôn: 01766 770892

Ebost: post@taldraeth.com

 


Polisiau

© 2023 Taldraeth. Cedwir Pob Hawl. Gwefan gan Delwedd